Roedd nifer y tai gwerth £1 miliwn a mwy yng ngwledydd Prydain wedi codi 12% yn ystod hanner cyntaf 2016, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Ond mae pris cyfartaledd y tai drutaf wedi gostwng o £1.86 miliwn i £1.73 miliwn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl banc Lloyds.

Cafodd 6,684 o dai eu gwerthu am o leiaf £1 miliwn yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn, o’i gymharu â 5,946 yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Cafodd newidiadau i’r dreth stampiau eu cyflwyno ddiwedd 2014 ar dai gwerth mwy na £937,500.

Yng ngogledd-ddwyrain Lloegr y cafwyd y cynnydd mwyaf mewn tai dros £1 miliwn (83%), a hynny o ganlyniad i 11 o dai yn cael eu prynu am fwy nag £1 miliwn.

Cafodd y nifer fwyaf o dai gwerth dros £1 miliwn eu prynu yn Llundain (4,238).

Ond roedd gostyngiad o 33% yn nifer y tai a gafodd eu prynu am fwy nag £1 miliwn – yr unig un o wledydd Prydain lle cafwyd gostyngiad.