Mae dau Eidalwr ac un dyn o Ganada wedi cael eu rhyddhau ar ôl cael eu cadw’n wystlon yn Libya.

Cafodd y tri – Danilo Calonego, Bruno Cacace a Frank Poccia – fynd adre’ dros nos, yn ôl Swyddfa Dramor yr Eidal.

Mae lle i gredu bod y tri yn gweithio fel technegwyr i’r cwmni Eidalaidd Conicos, a’u bod wedi bod yn gweithio mewn maes awyr yn Ghat pan gawson nhw eu cipio ar 19 Medi.

Does dim rhagor o fanylion am y trafodaethau rhwng yr Eidal a Libya ar hyn o bryd.