Mae diffoddwyr wedi bod yn ceisio diffodd tân yn Y Barri dros nos.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Ffordd Charles Darwin am oddeutu 6 o’r gloch nos Wener.

Mae oddeutu 20 tunnell o goed ar dân yno, ac fe fu’n rhaid i’r diffoddwyr roi’r gorau iddi am gyfnod am fod y sefyllfa’n rhy beryglus.

Mae adeiladwyr yn aros i gael mynediad i’r safle er mwyn dechrau ar y gwaith o glirio’r coed.