Mae dyn yn ei 50au wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yng Nghaerwent.

Roedd yn cerdded ger yr A48 am oddeutu 3.30 fore Sadwrn.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth.