Mae cyfreithwyr ar ran y Democratiaid yn paratoi i fynd i’r llys i ddadlau bod ymgyrchwyr Donald Trump a’r Gweriniaethwyr yn rhoi gormod o bwysau ar bleidleiswyr cyn etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau ddydd Mawrth.
Mae Trump wedi galw ar rai ymgyrchwyr i weithredu fel “goruchwylwyr” adeg yr etholiad er mwyn ceisio atal achosion o dwyll etholiadol.
Mae llysoedd mewn nifer o daleithiau eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â rhai o’r honiadau.
Yn Ohio, mae barnwr ffederal wedi gwahardd ymgyrchwyr Trump, gan gynnwys ei ymgynghorydd Roger Stone, rhag aflonyddu ar bleidleiswyr ddydd Mawrth.
Ond cafodd cais tebyg ei wrthod gan farnwr yn Arizona.
Yn New Jersey, mae’r Democratiaid yn dadlau bod Trump a’i blaid yn cynllwynio i fygwth pleidleiswyr ond maen nhw’n gwadu’r honiadau yn y dalaith honno ac mewn pum talaith arall.
Mae achosion eraill hefyd ar y gweill yn New Jersey, Ohio, Michigan, Nevada, Arizona a Pennsylvania.