Mae Theresa May wedi cael ymateb chwyrn oddi mewn i'w phlaid ei hun tros bolisi Brexit y llywodraeth
Mae aelodau seneddol Ceidwadol wedi galw ar Brif Weinidog Prydain Theresa May i dawelu’r ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys ar gychwyn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ddydd Iau, penderfynodd yr Uchel Lys y dylai Senedd Prydain gael pleidlais ar weithredu Cymal 50, a fyddai’n cychwyn y broses ffurfiol.

Ond mae cyn-weinidogion Ceidwadol wedi dweud y dylai May egluro bod annibyniaeth y llysoedd yn rhan hanfodol o ddemocratiaeth gwledydd Prydain.

Ers eu penderfyniad ddeuddydd yn ôl, mae’r barnwyr a wnaeth y penderfyniad wedi cael eu beirniadu gan rai aelodau seneddol Ceidwadol ac elfennau o’r wasg Brydeinig.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor dethol ar gyfiawnder, Bob Neill, mae’r feirniadaeth yn “bygwth annibyniaeth ein llysoedd” ac nad oes lle i’r fath sylwadau “mewn gwlad waraidd”.

Dywedodd wrth bapur newydd y Times: “Mae rhai o’r pethau sydd wedi cael eu dweud gan wleidyddion am ddyfarniad y llys wedi bod yn hollol warthus.

“Rhaid i’r holl weinidogion, o’r Prif Weinidog i lawr, egluro nawr fod annibyniaeth y llysoedd yn sylfaenol i’n democratiaeth ni. Rhaid i chi barchu hynny hyd yn oed os ydych chi’n credu bod eu penderfyniad yn anghywir.

“Mae’n ymddangos nad yw rhai aelodau o’r Senedd yn deall nad oedd gan y dyfarniad hwn ddim oll â mynd yn groes i ewyllys y bobol.”

Ychwanegodd y cyn-Dwrnai Cyffredinol Dominic Grieve fod yr ymosodiadau’n “oeraidd a gwaradwyddus” ac yn ymdebygu i “wladwriaeth ffasgaidd”.

Yn ôl cyn-weinidog arall, Anna Soubry, mae rhai o adroddiadau’r wasg yn “annog casineb”.

Dywedodd wrth y Guardian: “Dw i’n credu bod angen i ni dynnu sylw at hyn a dweud ‘nid yn fy enw i’.”

Ychwanegodd fod y ffrae yn anfon neges i weddill y byd fod gwledydd Prydain yn “colli’r plot”.

Daw ei sylwadau hithau ar ôl ymddiswyddiad yr Aelod Seneddol Ceidwadol Stephen Phillips yn sgil “gwahaniaethau polisi”.

Roedd yn gofidio, meddai, am ddiffyg cyfathrebu ynghylch polisi Brexit y llywodraeth.

Roedd hefyd yn anfodlon yn dilyn ymateb y llywodraeth i helynt plant ffoaduriaid yn Ewrop a’r ffordd y caiff arian cymorth rhyngwladol ei wario.