Mae clasur Dafydd Iwan wedi ei hen fabwysiadu gan dîm rygbi'r Scarlets - a allai gydio yn Stadiwm Liberty, tybed?
Gallai neges y gân Yma O Hyd ysbrydoli tîm pêl-droed Abertawe wrth iddyn nhw frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, yn ôl eu rheolwr Bob Bradley.
Roedd Bradley yn ymateb i fideo sydd wedi’i chyhoeddi ar Youtube yr wythnos hon yn dilyn gêm Abertawe yn Stoke nos Lun.
Mae’r fideo’n awgrymu bod recordiad o gân Dafydd Iwan wedi cael ei chwarae yn yr ystafell newid cyn y gêm.
A hithau’n bennaf gysylltiedig â thîm rygbi’r Scarlets, cafodd Yma O Hyd ei roi yn enw ar ymgyrch cefnogwyr tîm pêl-droed Wrecsam i achub y clwb rhag trafferthion ariannol yn 2011.
Ond hyd yma, ni fu cyswllt uniongyrchol â Chlwb Pêl-droed Abertawe.
‘Er gwaetha pawb a phopeth’….
Yn ôl Bob Bradley, mae’r neges yn y geiriau “er gwaetha pawb a phopeth ry’n ni yma o hyd” yn un bwysig i’w dîm.
Dywedodd wrth Golwg360: “Mae gyda ni’r gallu i fod yn gryf, ac mae gyda ni’r gallu, er gwaetha pawb a phopeth, i sefyll gyda’n gilydd a mynd allan ar y cae ac ymroi’n llwyr dros ein gilydd.
“Dw i’n herio’r chwarewyr yn gyson i fynd allan ac ymroi’n llwyr. Dyna beth mae’r rheolwyr gorau’n ei wneud.”
Awgrymodd Bradley fod y neges honno yn amlwg ym mherfformiad Man City ddechrau’r wythnos wrth iddyn nhw guro Barcelona yng Nghynghrair y Pencampwyr.
“Mae pob math o sôn am yr hyn a allai fod wedi digwydd yn ystod hanner amser y gêm. Dw i ddim yn gwybod yn union beth ddigwyddodd, ond dw i’n gwybod un peth. Mae ganddyn nhw’r gallu i ddweud, “Fe awn ni allan a’u herio nhw ar ein telerau ni, pwy bynnnag ydyn nhw”.
“Wrth baratoi ar gyfer gêm, rhaid i chi feddwl beth mae’n ei olygu i chi. Ond pa ffordd bynnag ydyn ni’n paratoi ar gyfer gêm i dynnu sylw atyn nhw fel gwrthwynebwyr, y peth pwysig yn y pen draw yw pwy ydyn ni ar y diwrnod. Dyna’r neges dw i’n ei chyfle bob amser.”
‘Y Bos’
Fel Americanwr, mae Bradley yn achub ar bob cyfle i hybu rhinweddau dau o’i gydwladwyr amlycaf yn y byd cerddorol, Bob Dylan a Bruce Springsteen.
Ac mae’r ddau yma hefyd dan ystyriaeth pan ddaw i ddewis cân swyddogol i’w dîm am weddill y tymor.
Pan oedd Bradley yn rheolwr ar Stabæk yn Norwy, cân y tîm hwnnw oedd The Ties That Bind gan Bruce Springsteen ac mae’n crisialu ei gyfnod wrth y llyw, yn ôl yr Americanwr.
“Mae’n gân sy’n golygu cymaint i fi o hyd. Fel mae’r gân yn ei ddweud, allwch chi ddim torri cysylltiadau sy’n eich clymu chi.
“Pan fyddwch chi ynghlwm wrth rywbeth gyda’ch gilydd dros gyfnod o amser, mae pawb yn dod i nabod ei gilydd – boed yn deulu, ffrindiau, beth bynnag – pan fo gyda chi’r cyswllt cryf hwnnw, mae’n rhywbeth na allwch chi ei dorri.
“Dw i’n dal i ddarganfod gyda’r grŵp yma [yn Abertawe] pwy alla i ddibynnu arnyn nhw.”
Van Morrison neu David Bowie…
Er apêl Springsteen, mae ‘Bos’ Abertawe hefyd yn cael ei ysbrydoli gan ddau enw mawr yr ochr hwn i’r Iwerydd – Van Morrison a David Bowie.
“Heroes gan David Bowie yw’r gân orau gewch chi. Hon oedd cân fy nhîm ym Mhrifysgol Princeton cyn pob gêm.
“Pan fu David Bowie farw, anfonodd y bois ro’n i’n chwarae gyda nhw ddolen i’r gân honno o gwmpas oherwydd hyd heddiw, mae’n dod â theimlad arbennig yn ôl o brofiadau wnaethon ni eu rhannu gyda’n gilydd.”
Cân swyddogol…?
Mae modd dweud yn sicr, felly, bod Dafydd Iwan, Bruce Springsteen a Bob Dylan yn debygol o fod yn uchel ar restr Bob Bradley pan ddaw i ddewis cân yn y pen draw.
Ond does dim brys gwyllt i ddewis y gân honno, meddai’r Americanwr.
“Dw i ddim am gyflwyno un newydd eto. Dw i am ddod i nabod y chwaraewyr a darganfod beth sy’n gweddu iddyn nhw. Efallai y gallwn ni ddod o hyd i rywbeth fydd yn golygu rhywbeth bach ychwanegol i bob un ohonon ni.”
Am y tro, mae sylw Bradley ar y gêm fawr ddydd Sul ac ar wella canlyniadau ei dîm mewn ymgais i’w codi o waelodion yr Uwch Gynghrair.
“Yr hyn rydych chi am ei gael yn fwy na dim yw tîm sy’n mynd allan ar y cae ac o’r dechrau, eu bod yn barod i roi popeth sydd ganddyn nhw at yr achos.
“Mae modd chwarae yn y ffordd gywir, cystadlu, a pheidio â cholli ffocws os aiff rhywbeth o’i le.
“Allwch chi ddim cymryd rhywbeth felly yn ganiataol. Mae’n golygu gweithio’n galed.”
Mae’n ddu iawn ar Abertawe ar hyn o bryd, ond does ond gobeithio, er dued y fagddu o’u cwmpas, y gallai canlyniad da yn erbyn Man U ddydd Sul olygu eu bod yn barod am doriad y wawr.