Mae mudiadau iaith yn rhybuddio y byddai datblygu Wylfa Newydd yn gwneud y siaradwyr Cymraeg yn lleiafrif ym Môn.

Mewn ymateb ar y cyd i ymgynghoriad cwmni Horizon ar Gynllun Wylfa Newydd, mae Cylch yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn galw am wrthod y datblygiad arfaethedig oherwydd y byddai’n sicr o brysuro enciliad y Gymraeg fel iaith y gymdeithas.

Yn eu sylwadau yn enw Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn, maen nhw’n datgan yn glir eu barn y byddai datblygu gorsaf niwclear newydd ym Môn yn gwanychu sefyllfa’r iaith yn barhaol, er bod y datblygwyr yn honni y byddai mesurau lliniaru yn lleihau’r effaith negyddol hir-dymor.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar Hydref 25, ac mae sylwadau’r mudiadau iaith yn feirniadaeth hallt o’r ‘Asesiad o’r Effaith ar yr Iaiith Gymraeg’, un o ddogfennau’r ymgynghoriad:

“Mae’n amlwg yn ôl yr ystadegau nad yw’r Gymraeg yn ddigon cadarn ym Môn i allu ymdopi gyda’r fath fewnlifiad di-Gymraeg newydd yn ychwanegol at y boblogaeth ddi-Gymraeg bresennol,” meddai’r mudiadau. “O ystyried ystadegau Cyfrifiad 2011 mewn perthynas â’r Gymraeg ym Môn, gwelir pa mor fregus yw ei sefyllfa.

“Mae poblogaeth Môn oddeutu 70,200, gyda 57% (oddeutu 40,000) yn medru siarad y Gymraeg. Mae hynny’n golygu bod 43% (oddeutu 30,200) yn ddi-Gymraeg. O ganlyniad i fewnlifiad y gweithwyr yn unig (hynny yw, heb deuluoedd), byddai cynnydd o oddeutu traean yn y boblogaeth ddi-Gymraeg – cynnydd eithriadol o sylweddol. Un canlyniad amlwg fyddai peri i ganran y siaradwyr Cymraeg ostwng yn sylweddol, a byddai’n debygol o ostwng o dan 50% a’u troi’n lleiafrif ym Môn.”

“Mesurau lliniaru” yn dda i ddim

Y mesurau lliniaru yr ystyrir eu gweithredu gan Horizon yw rhoi cymorth ariannol i gefnogi polisїau a chynlluniau sy’n cael eu gweithredu eisoes – er enghraifft Siarter Iaith yr ysgolion cynradd, canolfan iaith (ar gyfer plant newydd-ddyfodiaid), a Menter Iaith Môn.

Yn ei asesiad iaith, mae cwmni Horizon o’r farn y gellid cymhathu mewnlifiad y datblygiad yn ieithyddol trwy iddyn nhw fynychu gweithgareddau grwpiau gwirfoddol Cymraeg yn y gymuned. Ond mae’r mudiadau iaith yn cyhuddo’r cwmni o “anwybyddu realiti sefyllfa’r Gymraeg a dangos diffyg dealltwriaeth o gymdeithaseg iaith”.

“O ran cymhathu oedolion di-Gymraeg, gwyddom fod llai na mil o oedolion sy’n cofrestru i ddysgu’r Gymraeg drwy Gymru bob blwyddyn yn dod yn siaradwyr rhugl,” meddai’r mudiadau eto. “Dengys y ffigyrau swyddogol am y flwyddyn 2012 mai 2% yn unig o oedolion (16+) y boblogaeth ddi-Gymraeg ym Môn a gofrestrodd ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion. Gellir rhagdybio bod y nifer a ddaethai’r rhugl yn llawer iawn llai.

“Felly, mae’n amlwg nad yw sefyllfa’r Gymraeg ym Môn yn gymunedol ac yn gyfundrefnol yn ddigon cryf i gymhathu’r boblogaeth ddi-Gymraeg bresennol heb sôn am gymhathu mewnlifiad sylweddol ychwanegol.

“Byddai’r mewnlifiad ychwanegol o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig yn gwaethygu sefyllfa’r Gymraeg, yn gwrthweithio a thanseilio’r ymdrechion presennol a gwneud y dasg yn amhosibl. Byddai’n tanseilio strategaethau iaith Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

“Pris datblygu Cynllun Wylfa Newydd fydd niweidio sefylla’r Gymraeg a phrysuro’i thranc. Ar sail yr effaith andwyol y byddai Cynllun Wylfa Newydd yn ei chael ar y Gymraeg, rydym yn datgan ein gwrthwynebiad i’r datblygiad.”