Carl Sargeant
Heddiw, amlinellodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei nod uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol.
Wrth gyflwyno Datganiad Llafar i’r Cynulliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y £1.3bn a glustnodwyd dros dymor y llywodraeth hon i gefnogi’r gwaith o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy a chyflawni’r dasg o fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru yn dangos uchelgais y llywodraeth yn y maes hwn.
Mae’r cynlluniau i gyflawni’r nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn cynnwys y canlynol:
- Parhau i gefnogi gwaith adeiladu ar gyfer tai cymdeithasol i’r rhai hynny sydd fwya’ agored i niwed drwy gynlluniau dibynadwy sydd eisoes wedi’u profi, gan gynnwys y Grant Tai Cymdeithasol;
- Cefnogi gwaith adeiladu ar gyfer mwy na 6,000 o gartrefi drwy’r cynllun Cymorth i Brynu. Bydd Cam II y cynllun yn sicrhau bod £290 miliwn yn cael eu buddsoddi tan 2021;
- Datblygu rhaglen adeiladu tai fwy uchelgeisiol – sy’n uchelgeisiol o ran cynllun, ansawdd, lleoliad ac effeithlonrwydd ynni y cartrefi y byddwn yn eu darparu;
- Cefnogi amrywiaeth o ddeiliadaethau ar gyfer tai, er mwyn ymateb i ystod eang o anghenion o ran tai.
- Datblygu cynllun Rhentu i Brynu a fydd yn cefnogi’r rhai hynny sy’n dyheu am brynu cartref eu hunain, ond sy’n ei chael yn anodd i gynilo blaendal sylweddol;
- Hybu sawl ffordd o allu perchen ar dŷ am gost fforddiadwy – yn enwedig ar gyfer pobol sy’n prynu am y tro cynta’ mewn ardaloedd lle maen nhw’n aml yn methu â phrynu cartre’ oherwydd bod prisiau’n uchel.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn bwysig i gadw’r stoc o dai cymdeithasol presennol sydd ar gael, a bod y ddeddfwriaeth i ddiddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael eisoes ar y gweill.
Dywedodd Carl Sargeant hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cadw ac yn cryfhau’r perthnasau cadarn â’r cymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac adeiladwyr tai preifat.