Mae anghydfod wedi tanio rhwng pwyllgor ardal a Dŵr Cymru wedi i arwydd a ffens mawr gael eu codi a rhwystro pobol leol rhag mynd at lyn yn Nyffryn Nantlle.

Fis diwetha’, fe osodwyd ffens a weiren bigog er mwyn rhwystro mynediad i’r llwybr sy’n arwain at Lyn Cwm Dulyn, sy’n gronfa dŵr yfed, ynghyd ag arwydd mawr i ddweud bod dŵr dwfn ag algae gwyrddlas yn peri peryg i’r cyhoedd.

Ond mae trefniadau newydd wedi cynddeiriogi trigolion ac yn mynd yn groes i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGHT), yn ôl aelodau Pwyllgor Nebo a Nasareth, sydd hefyd yn dadlau nad oes algae gwyrddlas yn y dŵr o gwbwl.

Yn dilyn trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Pwyllgor, Dafydd Thomas, a swyddogion o Barc Cenedlaethol Eryri oedd yn cefnogi safbwynt y pwyllgor, mae Dŵr Cymru bellach wedi dweud na ddylai fod wedi rhwystro mynediad i’r cyhoedd at lan y dŵr gan addo i osod giât mochyn fel bo’r cyhoedd yn medru ei ddefnyddio. Dywedodd llefarydd hefyd wrth y pwyllgor bod gosod arwyddion i rybuddio yn erbyn dŵr dwfn yn rhan o ymgyrch cyffredinol gan y cwmni i rwystro pobol rhag nofio mewn llynnoedd ac i rwystro da byw rhag cael at y dŵr.

Ond mae aelodau’r pwyllgor am barhau i bwyso ar y cwmni i gael gwared â’r ffens a’r arwydd yn gyfan gwbwl ac i gael caniatâd i wneud y llwybr sy’n arwain at y llyn yn llwybr cyhoeddus swyddogol.

Cenedlaethau

Mae Llyn Cwm Dulyn wrth droed Crib Nantlle yn llecyn poblogaidd ymysg y gymuned leol fechan, gyda phobol yn aml yn mynd am dro, mynd am bicnic neu’n cychwyn cerdded Crib Nantlle o’r fan.

Esboniodd yr Ysgrifennydd Dafydd Thomas mewn llythyr at y cwmni dŵr: “Gan fod cenedlaethau o bobol wedi troedio’r llwybr i’r llyn, mae’r gymuned, gyda chefnogaeth y cynghorau lleol, yn ystyried cymryd camau i wneud y llwybr yn un cyhoeddus”.

Ychwanegodd OP Huws, sy’n aelod o’r Pwyllgor: “Dw i ddim yn gweld pwrpas yn y ffens. Mae hi yna rhag i ddefaid fynd at lan y llyn ond ydy hynny’n golygu eu bod nhw’n mynd i ffensio’r llyn cyfan? Mae’n wirion a does dim ei angen, mae’n torri ar draws hawl i gerdded y llwybr.

“Mae o’r dŵr glanna’ sydd bosib, ac mae’r Bwrdd Dŵr wedi dweud hynny ei hun. Gwastraff arian ydi o.”

Mae golwg360 wedi cysylltu â Dwr Cymru i ofyn am eu hymateb i’r stori, ond hyd yma, dydyn nhw ddim wedi dychwelyd galwadau.