(Llun: Ben Birchall/PA)
Mae ymdrechion i ddatrys yr argyfwng dur yng Nghymru mewn perygl o golli momentwm, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Cyhoeddodd cwmni dur Tata ei fwriad i werthu ei safleoedd yn y DU, gan gynnwys Port Talbot, ym mis Ebrill eleni gan roi miloedd o swyddi yn y fantol.
Dywedodd aelodau Pwyllgor Economi’r Cynulliad Cenedlaethol bod y diwydiant dur yng Nghymru wedi “disgyn i lawr yr agenda” yn dilyn y bleidlais Brexit.
Maent bellach wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Theresa May yn galw am weithredu cyflym i sicrhau dyfodol sefydlog a chynaliadwy ar gyfer y diwydiant dur yng Nghymru.
Mae Tata yn cyflogi bron i 7,000 o weithwyr yng Nghymru, gan gynnwys mwy na 4,000 yn ei ffatri ym Mhort Talbot.
Wythnos diwethaf, clywodd y pwyllgor gan berchnogion busnesau dur, undebau a’r Prif Weinidog Carwyn Jones ar ystod eang o faterion – gan gynnwys trethi busnes, prisiau ynni ac effaith Brexit.
‘Argyfwng yn dal i fod yn real iawn’
Meddai Russell George AC, cadeirydd y pwyllgor: “Pan gyhoeddodd Tata ei fod yn ystyried gwerthu ei ffatrïoedd dur yn gynharach eleni, y farn gyffredinol oedd bod yn rhaid i rywbeth gael ei wneud i ddiogelu swyddi.
“Mae’r dystiolaeth a glywsom yn ystod ein cyfarfod yn awgrymu bod y momentwm mewn perygl o gael ei golli a bod yr argyfwng dur wedi gostwng i lawr yr agenda ers refferendwm Brexit.
“Ond mae’r argyfwng yn dal i fod yn real iawn ac mae miloedd o bobl ledled Cymru yn meddwl ac yn poeni am beth fydd yn digwydd iddyn nhw a’u teuluoedd yn y dyfodol.
“Dyna pam rydym wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw am weithredu cyflym i sicrhau dyfodol sefydlog a chynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru a’r DU yn ehangach.”