Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn y cyfarfod i drafod Brexit yn Downing Street heddiw, Llun: Stefan Rousseau/PA Wire
Mae Prif Weinidog Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi dweud “nad ydynt wedi cael mwy o eglurder” o ran sut mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu gadael yr Undeb Ewropeaidd er gwaethaf cyfarfod o ddwy awr heddiw.
Yn ôl Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, doedden nhw ddim wedi cael dim manylion am gamau nesa’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, a rhybuddiodd fod “yr amser yn brin.”
“Mae cryn dipyn o ansicrwydd o hyd o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch beth yn union sy’n cyfri fel llwyddiant,” meddai Carwyn Jones
“Mae hynny’n ei gwneud yn anodd i’r gweinyddiaethau datganoledig ddylanwadu’n gadarnhaol ar y broses, ond rydyn ni’n benderfynol o hyd i sicrhau’r fargen orau i Gymru.”
Fe wnaeth Theresa May gynnig i gynnwys Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o’r trafodaethau ffurfiol cyson ar y broses i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn ymgais i dawelu eu pryderon.
Ond mae datganiad gan Downing Street heddiw wedi dweud na ddylai arweinwyr y gwledydd datganoledig “danseilio’r” trafodaethau hynny.
“Rydym wedi bod yn glir iawn y dylem fod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau’r cytundeb orau bosib i’r wlad yn ei chyfanrwydd,” meddai llefarydd ar ran y Prif Weinidog.
“Rydym yn disgwyl i gynrychiolwyr o’r gwledydd datganoledig ymddwyn yn y modd hwnnw ac i beidio â thanseilio sefyllfa’r Deyrnas Unedig.”
Y Farchnad Sengl – galwad Carwyn
Yn ystod y trafodaethau, dywedodd Carwyn Jones mai mynediad at y farchnad sengl ydy’r “mater mwyaf pwysig.”
“Fe wnes i ddadlau’n gryf iawn dros fynediad llawn, dirwystr at y farchnad sengl – fy mhrif flaenoriaeth o hyd yw economi Cymru a sicrhau mwy o swyddi o ansawdd gwell,” meddai.
“Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i werthu yn un o farchnadoedd mwya’r byd ar yr un telerau ag ydym ni nawr.”
Dywedodd ei fod yn croesawu bod “Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ildio i alwadau’r gweinyddiaethau datganoledig am gyfarfod yn amlach, ac i ni gael rhan ystyrlon wrth ddatblygu’r rhaglen waith yn ymwneud â Brexit yn y dyfodol.”
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi ymhellach beth yw eu hegwyddorion cyffredinol cyn dechrau’n swyddogol ar y broses negydu ym mis Mawrth.
Sturgeon – “rhwystredig iawn”
Wedi’r cyfarfod heddiw dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, bod y trafodaethau yn “rhwystredig iawn.”
Ychwanegodd Martin McGuinness, Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon fod “cyfrifoldeb ar y cyd” gan y gwledydd datganoledig i drafod Brexit, a galwodd am fod “wrth galon y trafodaethau.”