Llun: Gwefan Horizon
Wrth i’r ymgynghoriad diweddaraf ar ddatblygu Wylfa Newydd ddirwyn i ben, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi dweud wrth Pŵer Niwclear Horizon bod angen iddyn nhw wneud mwy i warantu swyddi i bobl leol a chefnogi’r iaith Gymraeg.

Mewn llythyr at brif weithredwr Horizon, Duncan Hawthorne, meddai prif weithredwr y cyngor Dr Gwynne Jones bod Cyngor Sir Ynys Môn yn “parhau’n ymrwymedig” i’r prosiect ond bod angen i’r cwmni wneud mwy er mwyn cynnal y gefnogaeth.

Mae’r ymgynghoriad ar ail gam y prosiect yn dod i ben yfory. Hwn yw’r ymgynghoriad olaf cyn i Horizon geisio caniatâd i adeiladu’r orsaf bŵer niwclear.

Roedd y llythyr a ddanfonwyd gan Dr Gwynne Jones at Horizon fel rhan o’r ymgynghoriad yn amlygu nifer o faterion allweddol sydd angen gweithio arnyn nhw.

Pryderon

Mae’r cyngor yn pryderu am swyddi i bobl leol a bod angen i Horizon wella ar ei amcangyfrif mai dim ond 25% o’r gweithlu adeiladu fydd yn byw o fewn 90 munud i’r orsaf niwclear.

Mae’r awdurdod lleol hefyd wedi dweud y bydd y prosiect yn cael effaith “sylweddol a phellgyrhaeddol o ran y Gymraeg a’i diwylliant” a bod angen i Horizon gymryd ystyriaeth o’r iaith drwy holl elfennau’r prosiect ac nid edrych ar yr iaith Gymraeg ar ei phen ei hun.

Meddai’r llythyr hefyd ei bod hi’n “angenrheidiol” bod busnesau lleol yn gallu cystadlu ar gyfer cyfleoedd contractau gwasanaeth a chadwyn gyflenwi ac mae’r cyngor yn poeni nad yw’r effaith arfaethedig ar dwristiaeth, fel sector economaidd allweddol ar yr ynys, wedi  cael digon o sylw.

Yn ogystal, mae’r Cyngor eisiau mwy o fanylder am y cynlluniau cyn rhoi eu cefnogaeth lawn i’r prosiect

Potensial i newid bywydau er gwell

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dr Gwynne Jones: “Fel Cyngor Sir, rydym yn cefnogi’n llawn y datganiad a wneir gan Horizon bod gan Wylfa Newydd botensial i newid bywydau er gwell ar draws Ynys Môn a dod â buddsoddiad a chyfleoedd sylweddol i gymunedau ac unigolion ar draws gogledd Cymru a thu hwnt.

“Fodd bynnag, rydym hefyd yn gadarn bod angen trosi’r amcan aruchel yma’n ymrwymiadau a gweithredu gweladwy sy’n cwrdd â disgwyliadau pobl, busnesau a chymunedau lleol, a bod Ynys Môn yn gymwys i fanteisio ar gyfleoedd y dyfodol.

“Credwn fod yr ymateb ffurfiol yma darparu’r mesuriadau lliniaru angenrheidiol ar gyfer Pŵer Niwclear Horizon allu goresgyn nifer o’r effeithiau hynny yr ydym ar hyn o bryd yn weld fel gwendidau sylweddol yn y prosiect.”

Adborth pwysig

Meddai llefarydd ar ran Horizon: “Rydym yn croesawu’r ymateb gan Gyngor Sir Ynys Môn ac yn gwerthfawrogi’r ymdrech sydd wedi mynd i mewn i roi adborth pwysig ar brosiect cymhleth.

“Fel mae’r Cyngor yn cydnabod; mae llawer o dir cyffredin rhyngom ac mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ond mae gwaith i’w wneud o hyd wrth i ni gwblhau ein cynlluniau. Rydym yn edrych ymlaen at barhau ein cydweithrediad agos â’r Cyngor dros y misoedd nesaf.

“Mae’n bwysig nodi bod y niferoedd gweithwyr lleol yr oeddem wedi cyhoeddi yn sylfaen cynnar ac nid yn darged. Nid oes unrhyw reswm pam, dros amser, na allwn ni ailadrodd llwyddiant Gorsaf Bŵer Wylfa A (Magnox), ble roedd mwy na 80% o’r gweithlu yn bobl leol.

“Mae hyn o fudd i bawb ac yn rhan o’n hymrwymiad 100 mlynedd i greu cyfleoedd i fusnesau a swyddi i bobl leol.”