Emma Baum, Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae cyn-gariad dynes 22 oed o Wynedd wedi pledio’n euog o’i llofruddio.
Cafwyd hyd i gorff Emma Baum yng ngardd gefn ei chartref yn Heol Llwyndu, Penygroes ar 18 Gorffennaf eleni. Roedd hi wedi cael anafiadau i’w phen.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug fe blediodd David Nicholas Davies, 25, o Glynnog Fawr, ger Caernarfon yn euog o’i llofruddio ond nid yw’n derbyn achos yr erlyniad yn llawn.
Fe fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal er mwyn i’r barnwr ystyried y dystiolaeth yn Llys y Goron Caernarfon ar 7 Tachwedd.
Clywodd y llys bod Davies yn gwadu defnyddio cyllell yn ystod yr ymosodiadau ac mae’n dweud nad oedd wedi mynd ag arf i gartref Emma Baum.
Dywedodd y Barnwr Keith Thomas y bydd Davies yn cael ei gadw yn y ddalfa nes bod y dystiolaeth yn cael ei chyflwyno ymhen tair wythnos.