Y Jyngl yn Calais yn cael ei ddymchwel Llun: O gyfrif Twitter @HelpRefugeesUK/PA
Mae disgwyl i bedwar ar ddeg o blant gyrraedd y Deyrnas Unedig heddiw wrth i’r gwaith barhau o geisio ail-leoli pobol ifanc cyn i’r gwersyll ffoaduriaid yn Calais – y Jyngl – gael ei ddymchwel.

Bydd y plant yn ymuno â’u teuluoedd sydd eisoes wedi’u hail-leoli yng ngwledydd Prydain, a byddan nhw’n cofrestru gyda’r Swyddfa Gartref yn Llundain heddiw.

A dros y dyddiau nesaf, mae disgwyl i ddegau o blant eraill gyrraedd Prydain wrth i swyddogion Prydain gynorthwyo awdurdodau Ffrainc i ail-leoli ffoaduriaid cyn i’r gwaith o ddymchwel y gwersyll yn Calais ddechrau.

‘Anrhefn y dymchwel’

Mae newid gan yr Arglwydd Dubs i Ddeddf Mewnfudo 2016 yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Prydain ail-leoli plant sy’n ffoaduriaid a heb gwmni o Ewrop.

Dywedodd yr Arglwydd Dubs: “Ni ddylai’r un plentyn gael ei adael ar ôl yn anrhefn y dymchwel,” gan ychwanegu na ddylai sefyllfa debyg i’r Jyngl fyth godi eto.

Yn ogystal, dywedodd Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain, Amber Rudd, yr wythnos ddiwethaf fod mwy na 80 o blant heb gwmni wedi cael eu derbyn o dan y rheol ‘Dulyn’ hyd yn hyn eleni.

Mae’r rheol honno’n golygu bod yn rhaid i geisiadau lloches gael eu gwneud yn y wlad ddiogel gyntaf y mae person yn cyrraedd – ond gall ceisiadau’r plant gael eu trosglwyddo i wlad arall os oes teulu ganddynt yno.