Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am ddyn aeth ar goll bron i bythefnos yn ôl.

Dydy ‘Dai’ Williams, 34, ddim wedi cael ei weld ers 7.30 fore Mercher, Hydref 5.

Cafodd ei weld ddiwethaf yn ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd, ac roedd yn gwisgo siwmper hufen, jeans ac esgidiau rhedeg gwyn.

Dywed yr heddlu eu bod yn gofidio amdano.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.