Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud y dylai Plaid Cymru fod wedi gofalu amdano fe pe baen nhw am iddo aros yn Aelod Cynulliad dros y blaid.
Daeth cadarnhad nos Wener fod Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd yn parhau’n Aelod Cynulliad annibynnol ar ôl cyhoeddi ei fod yn gadael y blaid.
Ond mae’n dweud nad oedd e wedi rhagweld y byddai wedi gorfod gwneud y penderfyniad hwnnw adeg etholiadau diwetha’r Cynulliad.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC: “Do’n i ddim wedi rhagweld y byddai wedi dod i hyn, yn enwedig yn y cyfnod cyn yr etholiad diwethaf pan alwodd y Pwyllgor Cenedlaethol ar y blaid yn lleol i gynnal ail gynhadledd dethol er mwyn gweld a oeddwn i’n addas i fod yn ymgeisydd.
“Fe wnes i ennill rhan helaeth o’r bleidlais yno, a mynd ymlaen i sefyll fel ymgeisydd dros Blaid Cymru.
“Ond roedd y rhaglen y gwnes i sefyll drosti bryd hynny’n rhaglen i Wynedd, i Ddwyfor Meirionnydd, i Gymru wledig, i fwyd ac amaeth, ynni ac yn y blaen.
“Fe ddylen nhw fod wedi gofalu amdana i os oedden nhw am i fi aros.”
Ufudd-dod
Eglurodd wrth y rhaglen nad oedd rhaid iddo brofi bryd hynny ei fod yn ufudd i’r blaid, ond fe ddywedodd ei fod yn destun gorchymyn y byddai’n rhaid iddo fynd at gadeirydd y Blaid yn lleol cyn gwneud “datganiadau dadleuol”.
“Mi wnes i gadw at hynny tan yr etholiad. Roeddwn i wedi gobeithio y bydden nhw wedi newid hynny a gyda 47% o’r bleidlais, y byddwn i wedi cael rhan bwysig i’w chwarae.”
Mynegodd ei siom nad yw Plaid Cymru o dan arweiniad Leanne Wood mewn sefyllfa eto i ffurfio llywodraeth.
“Y peth pwysig ydi adeiladu llywodraeth gref i Gymru. Mae’r Bil sydd gennym nawr yn San Steffan yn tynnu pwerau yn ôl. Dyna’r gwir berygl a dyna pam dw i am weld holl gefnogwyr datganoli’n cydweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol.
“Fe wnes i weithio’n galed dros ddatganoli oherwydd ro’n i am i wleidyddiaeth Cymru fod yn wahanol. Ro’n i am fod yn greadigol a gwneud pethau gyda’n gilydd.
“Fe ddigwyddodd hynny yn y cyfnod cynnar a phan oedd yna glymblaid ffurfiol.”
Newid pwyslais
Ond fe ddywedodd fod safbwynt Plaid Cymru wedi newid yn sylweddol ers y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
“Cyn gynted ag y cawsom ni’r bleidlais am ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd, y prif beth ddylai fod wedi digwydd yw fod y prif bleidiau wedi deall y perygl difrifol i gyfansoddiad Cymru pe bai pwerau, er enghraifft tros amaeth a bwyd a’r amgylchedd sydd ar hyn o bryd dan ofal yr Undeb Ewropeaidd, wedi cael dychwelyd adref, ond at San Steffan.”
Wfftio Llafur
Er iddo adael Plaid Cymru, mae’r Arglwydd Elis-Thomas yn mynnu ar hyn o bryd nad oes ganddo fwriad derbyn swydd yng nghabinet Llywodraeth Lafur Cymru.
“Dydy hynny ddim yn cael ei gynnig. Does dim ad-drefnu ar y gorwel o fewn y llywodraeth.
“Dw i’n datgan yn glir fy mod i am wasanaethu fy etholaeth. Dw i’n cyflawni fy rôl fel cynrychiolydd annibynnol fy etholwyr mewn modd effeithiol.”
Uchelgais
Tra’n cyfaddef ei fod yn uchelgeisiol, fe wfftiodd yr honiad ei fod e wedi rhoi ei hun o flaen ei genedl.
“Dydy hynny ddim yn gwestiwn rhethregol priodol. Mae pawb yn y byd gwleidyddol yn uchelgeisiol.
“Dw i’n uchelgeisiol o safbwynt pobol Cymru a’r bobol dw i’n eu cynrychioli – dydw i ddim yn ymddiheuro am hynny.”