Mae dyn deunaw oed o Gaerffili wedi cael dirwy a record droseddol ar ôl cymryd rhan yn y chwiw ddiweddaraf o wisgo i fyny fel clowniau arswydus.

Fe wnaeth Heddlu Gwent ymateb i adroddiadau lleol bod dyn wedi gwisgo i fyny fel clown ac yn codi arswyd ar blant tu allan i Ysgol Gyfun Sant Cennydd yng Nghaerffili.

Bellach, mae’r dyn o Benyrheol wedi cael dirwy o £90 a chyhuddiad o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus.

“Yn yr achos hwn, nid yn unig y mae’r dyn ar golled, fe fydd ganddo hefyd record droseddol a fydd yn effeithio ar ei ddyfodol, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd gwaith,” meddai’r Prif Arolygydd Paul Staniforth.

‘Gor-ymateb’

Mae nifer o achosion tebyg o bobol yn gwisgo i fyny fel clowniau ar draws gwledydd Prydain yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae’r arfer wedi dechrau yn yr Unol Daleithiau.

Er hyn, mae arbenigwr ffilmiau arswyd o Langefni wedi dweud wrth Golwg360 bod pobol wedi gorymateb i’r arfer diweddar.

Yn ôl Sion Griffiths, does yna ddim modd deall yn iawn y trend heb fod yn gwybod am ddiwylliant gemau fideo a ffilmiau.