Y Trysorlys Llun: PA
Bydd coffrau’r Trysorlys ar eu colled o £66 biliwn y flwyddyn petai’r Llywodraeth yn cytuno ar yr hyn sy’n cael ei alw’n “Brexit caled”, clywodd gweinidogion y Cabinet.

Mae dogfennau’r Llywodraeth sydd wedi cael eu datgelu, yn awgrymu y byddai gadael y farchnad sengl a throi at reolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) yn achosi i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y Deyrnas Unedig i ostwng hyd at 9.5% o’i gymharu ag aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae papur drafft y Cabinet, sydd wedi cael ei weld gan bapur newydd The Times, yn seiliedig ar ragolygon o’r astudiaeth ddadleuol i’r effaith o adael yr UE a gyhoeddwyd gan y cyn-Ganghellor George Osborne ym mis Ebrill yn ystod ymgyrch y refferendwm.

Er bod y Canghellor ar y pryd wedi wynebu beirniadaeth eang yn sgil yr adroddiad ar y pryd, mae’r Trysorlys yn parhau i gefnogi ei ragolygon, yn ôl The Times.

Mae cefnogwyr Brexit sydd wedi gweld y dogfennau wedi dweud bod y ffigyrau yn afrealistig ac yn honni bod ymgyrch ar y gweill “i wneud i adael y farchnad sengl edrych yn wael.”

Ond mae ymgyrchwyr oedd o blaid aros yn rhan o’r UE yn gwthio am “Brexit meddal” a fyddai’n cadw Prydain yn y farchnad sengl gan ddweud bod y dogfennau yn dangos y “difrod erchyll” fyddai’n gallu digwydd i economi’r DU.