Mae’n ymddangos mai problemau gyda choncrid adeilad Theatr Ardudwy, Harlech, oedd yn gyfrifol am y ffaith i’r lle gael ei gau yn sydyn ddydd Iau yr wythnos hon.

Fe gaewyd y ganolfan yn annisgwyl oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch, a hithau newydd fuddsoddi £100,000 mewn sinema ddigidol newydd sbon.

Mae’r cynghorydd lleol E Caerwyn Roberts wedi cadarnhau wrth golwg360 fod adroddiad wedi’i gomisiynu i gyflwr yr adeilad, ond nad oedd o wedi gweld y ddogfen honno eto.

“[Ond] mae yna sibrydion wedi bod ers tro byd bod canser [yn y] concrid mewn ffordd,” meddai.

“Mae pob dim i’w weld yn olreit… dw i’n cymryd yn ganiataol bod yr arbenigwyr wedi bod yna ac wedi gwneud profion. Rhywbeth yn y concrid ydi’r drwg.”

Poblogaidd 

Mae Theatr Ardudwy yn boblogaidd â phobol leol ac ymwelwyr, meddai Caerwyn Roberts, gyda’r ffilmiau digidol newydd wedi denu llawer yno.

“Mae yna lot o weithgareddau’n mynd ymlaen, mae’r ffilms digidol yma rŵan, mae hynna wedi costio’n reit ddrud i’r Bwrdd a dweud y gwir, ac wedi cael grantiau wrth gwrs…

“Mae hwnna dros gyfnod yr haf i’r ymwelwyr, ac mae wedi tynnu llawer iawn o ymwelwyr i weld y ffilmiau.”

Does dim manylion eto am bryd neu os bydd y theatr yn ail-agor.