Helgard Krause fydd yn olynu Elwyn Jones yn Brif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. Bydd yn dechrau yn y swydd ar Chwefror 1, 2017.

Yn enedigol o’r Almaen, cafodd Helgard ei magu yn ardal Rheinland Pfalz, mewn tref fechan ar y ffin â Ffrainc.  Graddiodd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Berlin cyn dilyn cwrs mewn llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sussex ym 1993.

Mae hi wedi gweithio i sawl cwmni ym maes cyhoeddi, gan gynnwys Routledge a chwmni dosbarthu yn Rwsia. Yn ddiweddarach ymunodd â chwmni cyhoeddi Rotovision, gan ddod yn Bennaeth Gwerthu a Hawlfreintiau ac arwain eu cynlluniau marchnata yn Tsieina, Siapan, Awstralia ac America.

Symudodd i fyw i Gymru yn 2002, pan gafodd ei phenodi’n Swyddog Marchnata Tramor i’r Cyngor Llyfrau.  Yn dilyn dwy flynedd o hyrwyddo llyfrau Cymru ar draws y byd, fe’i penodwyd i’r swydd Pennaeth Gwerthu a Marchnata i arwain y tîm gwerthu a marchnata.  Ar hyn o bryd, hi yw Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru.

Wrth gyhoeddi’r penodiad heddiw, dywedodd Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M. Wynn Thomas: “Mae hwn yn benodiad rhagorol i swydd allweddol.

“Mae gan Helgard Krause gyfoeth o brofiad a sgiliau. Bydd hynny’n help i sicrhau dyfodol cadarn i sefydliad cenedlaethol amlwg sydd o’r pwys mwyaf o ran diogelu diwylliant Cymru yn y ddwy iaith.”