Mae Mesur newydd ar y pwerau y dylai Cymru eu cael wedi cael eu beirniadu’n hallt gan un o Aelodau Cynulliad mwya’ profiadol Cymru.
Mae Dafydd Elis-Thomas, wedi awgrymu wrth golwg360 y gallai Cymru wrthod deddfau San Steffan ar faterion sydd wedi datganoli yn y dyfodol.
Wrth feirniadu Mesur Cymru – bil a gafodd ei lunio gan swyddogion San Steffan ar y pwerau newydd y dylai Cymru gael – dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas nad yw’r mesur yn rhoi cydraddoldeb i Gymru o gymharu â’r Alban a Gogledd Iwerddon.
“Mae hyn yn fater difrifol iawn,” meddai.
“Oherwydd be mae o’n wneud, mae o’n golygu na all pobol Cymru a chyfreithwyr sy’n ymarfer yng Nghymru a mudiadau yng Nghymru ddiwygio materion yng Nghymru’n haws drwy gyfraith a dod at ddatrysiad addas i Gymru ag sy’n gallu digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
“Ac felly dwi’n meddwl bod hi’n hen bryd i ni ddangos tipyn bach mwy o ddannedd a dwi yn ystyried a fyddai’n briodol i ni, fel mae gynnon ni hawl i wneud hyd yn oed ar hyn o bryd, os ydy San Steffan yn deddfu ar faterion sydd wedi’u datganoli’n barod, mi allwn ni wrthod caniatâd iddyn nhw wneud hynny, a falle dylwn ni.”
Adroddiad beirniadol
Mae disgwyl i’r mesur gael ailddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi dydd Llun, ac mae Dafydd Elis-Thomas yn bwriadu cyfrannu at y drafodaeth i nodi ei anfodlonrwydd â’r ddeddf.
Mae e’n aelod o Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad, sydd wedi cyhoeddi adroddiad beirniadol iawn ar y mesur.
Yn ôl y pwyllgor, mae’r mesur yn rhy gymhleth, yn fiwrocrataidd a gall hyd yn oed rowlio’r broses ddatganoli yn ôl.
Amddiffyn Mesur Cymru
Ond mae Llywodraeth Prydain yn mynnu ei bod wedi “ymrwymo i greu Cymru gryfach o fewn y Deyrnas Unedig.
“Bydd Bil Cymru yn sicrhau setliad datganoledig cryfach, clir a theg ac wedi’i selio ar gytundeb Dydd Gŵyl Ddewi,” meddai Swyddfa Cymru.
“Byddai cyflwyno awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yn ychwanegu costau a chymhlethdod a byddai wedi ei wrthod gan y Llywodraeth a’r wrthblaid yn San Steffan.”