Mae Mesur Cymru sy’n mynd trwy Senedd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn rhy gymhleth, yn fiwrocrataidd ac ni fydd yn cyflwyno setliad parhaol, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol hefyd yn dod i’r casgliad nad yw’n cyflawni mwy o gydraddoldeb â’r Alban a Gogledd Iwerddon o ran pwerau a chyfrifoldebau… ac mae hyd yn oed yn mynd mor bell â dweud y gallai “leihau” faint o ddatganoli sy’n digwydd i Gymru.
Mae’r Pwyllgor yn credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “wedi colli cyfle euraidd” i gyflwyno deddf y gallai pob ochr gytuno arni.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn feirniadol o ba mor gyflym aethpwyd â’r Bil drwy Dŷ’r Cyffredin, sy’n golygu fod gan Dŷ’r Arglwyddi “faich ychwanegol o ran cyfrifoldeb am graffu effeithiol cyn y gellir pasio’r Bil hwn fel un addas at y diben”.
Mae Aelodau wedi galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu dull newydd o ymdrin â chyfraith gyfansoddiadol sy’n ymwneud â deddfwrfeydd datganoledig.
Llwyddiant
Ond, wedi’r beirniadu, mae’r Pwyllgor yn nodi ei fod yn falch bod Bil Cymru yn cynnwys:
– symud i fodel pwerau cadw, a fyddai’n golygu pwerau ar wahân i’r rhai a gedwir yn benodol gan Senedd y DU yn dod i Gymru;
– datganiad am barhauster Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru; a
– rhoi cymhwysedd mewn perthynas ag etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol a’r system etholiadol.
Ond y cymhlethdod a’r diffyg eglurder sy’n bwrw amheuaeth ar ba mor wydn fydd y setliad yn y pen draw.
Biwrocratiaeth
Mae’r Bil hefyd yn ychwanegu haen o “fiwrocratiaeth ychwanegol” ar adeg y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun yn annog sefydliad i fod yn fwy effeithlon.
Meddai Huw Irranca-Davies AC, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:
“Mae’n siomedig gweld nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn llawer o’r argymhellion teilwng a phwysig a wnaed gan lawer o bobol a sefydliadau, gan gynnwys rhagflaenydd y Pwyllgor hwn.
“Er ein bod yn derbyn bod rhai newidiadau er gwell, mae gan Gymru nawr ddeddf gymhleth sy’n bygwth lleihau ein pwerau presennol ac sy’n methu â rhoi mwy o gydraddoldeb i ni â’r gwledydd datganoledig eraill.”
Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cyflwyno ei ganfyddiadau i Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi yn Llundain ddydd Mercher nesa’, Hydref 12.