Mae’r holl drenau rhwng Caerdydd a Chasnewydd wedi cael eu gohirio wedi i fom o’r Ail Ryfel Byd cael ei ddarganfod ger y lein.

Mae trenau Arriva Cymru yn dweud ar eu cyfri’ Twitter bod disgwyl i bethau fod felly tan tua 7.30yh heno.

Cafodd y bom, sydd heb ffrwydro, ei ddarganfod brynhawn heddiw.

Yn y cyfamser, mae cwmni bysus Newport Bus yn derbyn tocynnau trên ar fysus rhwng Caerdydd a Chasnewydd tan 8yh heno.

Credir bod tîm difa bomiau ar eu ffordd i’r digwyddiad