Mae 101 o bobol wedi cael eu diswyddo mewn cwmni dur yng Nghasnewydd ar ôl i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Sefydlwyd AIC Steel Limited yn 2013 a dywedodd y gweinyddwyr eu bod yn ymchwilio i pa mor hyfyw yw’r posibilrwydd i gadw’r gwaith ar agor.

Er hynny, mae’r gweinyddwyr wedi rhybuddio bod diswyddiadau sylweddol yn debygol.