Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff dyn mewn coedwig ger siop Tesco ym Mangor ddydd Sul.
Cafodd y corff ei ganfod gan gŵn chwilio ac achub wrth i’r tîm gynnal chwiliad wedi’i gynllunio yn yr ardal yn dilyn adroddiadau bod dyn ar goll o Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Roedd y dyn yn farw pan ddaethant o hyd iddo, ac nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae’r mater wedi’i gyfeirio at y Crwner.
Nid yw’r dyn wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae swyddogion yr heddlu mewn cysylltiad â theulu gŵr 45 oed y mae lle i gredu iddo fod ar goll o Ysbyty Gwynedd ers Medi 22.