Zoe Morgan a Lee Simmons
Fe fydd dyn 20 oed yn ymddangos yn y Llys  y Goron Caerdydd heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddio cwpl y tu allan i’r siop lle’r oedden nhw’n gweithio.

Cafwyd hyd i Zoe Morgan, 21, a Lee Simmons, 33, ger y siop, Matalan, yng nghanol dinas Caerdydd tua 5:50 y bore ar ddydd Mercher, 28 Medi.

Mae Andrew Patrick Saunders, 20, o Gas-bach, Gwent, wedi’i gyhuddo o’u llofruddio.

Roedd Saunders wedi ymddangos yn  y llys yng Nghaerdydd ddydd Gwener, lle wnaeth gadarnhau ei enw, ei oedran a’i gyfeiriad cyn cael ei gadw yn y ddalfa.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad  ac mae swyddogion arbenigol yn helpu’r teuluoedd.

Roedd Zoe Morgan yn gweithio yn y siop ar Stryd y Frenhines fel gwisgwraig ffenestri ac roedd Lee Simmons yn weithiwr siop.

Mae’n debyg bod y ddau wedi bod mewn perthynas ers pedwar mis.

“Gadael twll anferth”

Mewn teyrnged i Zoe Morgan, fe ddywedodd ei theulu ei bod yn “ferch, chwaer, wyres a modryb hyfryd a fyddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un”.

Mewn datganiad, dywedodd y teulu bod ei marwolaeth wedi “gadael twll anferth yn ein bywydau na fydd byth yn cael ei lenwi”.