Mike Towell
Mae apêl i godi arian i deulu’r bocsiwr o’r Alban fu farw’r wythnos diwethaf wedi cyrraedd ei darged o £20,000 mewn ychydig ddyddiau.
Bu farw Mike Towell ar ôl dioddef anafiadau i’w ben mewn gornest yn erbyn y Cymro Dale Evans yn Glasgow nos Iau ddiwethaf.
Cafodd yr apêl ei sefydlu gan un o bencampwyr bocsio’r byd, Ricky Hatton, er mwyn cefnogi teulu’r bocsiwr – ei gariad Chloe Ross a’u mab Rocco.
Bellach, mae mwy na £28,000 wedi’i godi.
‘Cwestiynau i’w hateb’
Cafodd Mike Towell, 25 oed, ei ruthro i ysbyty Dundee wedi’r ornest gafodd ei darlledu ar STV Glasgow.
Roedd yn dioddef o waedu difrifol a’i ymennydd wedi chwyddo, a bu farw ddydd Gwener.
Ac mae’r cyn-ddyfarnwr bocsio, Wynford Jones, wedi dweud wrth Golwg360 fod cwestiynau i’w hateb yn dilyn ei farwolaeth.
“Mae angen ateb cwestiynau,” meddai.
“Clywais i sôn fod Mike yn dioddef o migraine dros yr wythnos. Does dim posib cuddio rhywbeth fel’na o’r meddygon yn ystod medical.”
Ychwanegodd na ddylai’r ornest fod wedi’i chynnal yn sgil y pennau tost yn y lle cyntaf.
“Roedd problem yn y cefndir fynna. Mae’n bosib fod rhywbeth wedi digwydd tra ei fod e’n paratoi.”