Mae S4C wedi penodi Llion Iwan i swydd newydd Pennaeth Dosbarthu Cynnwys y sianel.

Llion Iwan sydd wedi bod yn Gomisiynydd Rhaglenni Ffeithiol i S4C ers pedair blynedd, ac fe fydd y gwaith newydd hwn yn mynd ag ef o Gaernarfon i Gaerdydd i weithio am y ddwy flynedd nesa’, nes bydd y swydd yn adleoli i bencadlys newydd y sianel yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin yn 2018.

Mae’r disgrifiad swydd yn nodi bod disgwyl i’r Pennaeth Dosbarthu Cynnwys fod yn gyfrifol “mewn cydweithrediad â’r Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys am greu, gweithredu a goruchwylio strategaeth amserlenni, pryniannau ac edrychiad S4C ar draws llwyfannau”.

Yn fwy penodol, meddai’r disgrifiad wedyn, y Pennaeth Dosbarthu newydd fydd yn “sicrhau fod gan S4C amserlen amrywiol, heriol ac adloniadol traws llwyfan i’r gynulleidfa” ac yn cymryd cyfrifoldeb am “drosolwg o holl arlwy newyddion a materion cyfoes S4C ar draws llwyfannau”.

Ef hefyd fydd yn cadeirio trafodaethau gyda’r BBC, yn gwrando ac yn ymateb i sylwadau gan gynhyrchwyr, ac yn cymryd golwg tros holl gynnwys S4C ar “bob llwyfan”.

A’r Pennaeth Dosbarth Cynnwys fydd â’r gwaith, meddai’r disgrifiad swydd, o “adnabod cyfleoedd newydd i ehangu a datblygu ein cynnwys, gan gynnwys tiriogaethau a thalent newydd”.

Yng ngoleuni’r penodiad hwn, mae golwg360 yn deall y bydd hysbyseb am Gomisiynydd Rhaglenni Ffeithiol yn ymddangos yn y wasg yn y dyfodol agos.