Gerry Adams
Mae Gerry Adams wedi cadarnhau ei fod yn mynd â’r BBC i gyfraith tros honiadau am lofruddiaeth un o sbeis MI5 gan yr IRA.

Ond mae llywydd Sinn Féin yn gwrthod dweud a ydi o’n siwio oherwydd fod honiadau yn y rhaglen faterion cyfoes, Spotlight, yn awgrymu pwy oedd wedi gorchymyn lladd Denis Donaldson.

Fe gafodd Denis Donaldson, 55, yn un o swyddogion Sinn Féin ac yn un o gydweithwyr Gerry Adams, ei saethu’n farw mewn bwthyn pellennig ger Glenties yn County Donegal yn Ebrill 2006. Fe ddigwyddodd hyn wedi iddi ddod yn amlwg ei fod yn gweithio fel sbei i MI5 gwladwriaeth Prydain.

“Dw i wedi bod mewn cysylltiad efo fy nghyfreithwyr, ac fe fyddwn ni’n cymryd camau yn erbyn y BBC mewn perthynas â’r honiad hollol anghywir sydd yn y rhaglen Spotlight a ddarlledwyd,” meddai Gerry Adams.

“Mae’r mater hwn bellach yn nwylo fy nghyfreithwyr, a fydda’ i ddim yn gwneud sylw pellach.”

Mae’r BBC wedi amddiffyn y rhaglen Spotlight gan ddweud ei bod yn delio â materion sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd, ac mae’r Bîb wedi amddiffyn ei newyddiaduraeth.