Mae adroddiad newydd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cydnabod arferion da ymysg deintyddfeydd Cymru, ond mae hefyd yn tynnu sylw at welliannau sydd eu hangen mewn rhai meysydd.

Fe wnaeth yr Arolygiaeth arolygu 133 practis deintyddol ar draws Cymru rhwng 2015 a 2016 sy’n gweithredu dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a hefyd yn darparu gwasanaethau preifat.

Mae’r adroddiad yn nodi “anghysondebau” rhwng byrddau iechyd a rhwng gwahanol bractisau.

Y prif feysydd oedd angen eu gwella oedd gweithdrefnau dadheintio a threfniadau radiograffig.

‘Anghysondebau’

“Trwy ein gwaith, rydym wedi cydnabod arferion da a hefyd meysydd i’w gwella mewn practisau deintyddol ledled Cymru,” meddai Kate Chamberlain, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Rydym wedi canfod anghysondebau o ran safonau o fewn byrddau iechyd gwahanol a hyd yn oed o fewn practisau.

“Roeddem yn bryderus wrth ddarganfod bod angen i nifer o bractisau wneud gwelliannau i’w gweithdrefnau dadheintio.

“Roedd angen i sawl practis hefyd wella eu trefniadau ar gyfer y defnydd diogel o offer radiograffig i sicrhau eu bod yn diwallu gofynion rheoleiddiol perthnasol,” meddai.

Am hynny, dywedodd bod angen i bob practis sicrhau eu bod yn cael adborth gan gleifion am y gwasanaeth.