Prif Weinidog Cymru fydd yn arwain cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar Ewrop heddiw i drafod oblygiadau’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, ydy cadeirydd y grŵp, a dan arweiniad Carwyn Jones mae disgwyl iddyn nhw ystyried sut y gall Cymru “barhau i weithio’n gadarnhaol gydag Ewrop.”

Nid gwleidyddion yw unig aelodau’r grŵp sy’n cynnwys arweinwyr busnes, cynrychiolwyr o brifysgolion, colegau, undebau llafur, y byd amaeth, gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector.

Marchnad Sengl – ‘mynediad llawn a dilyffethair’

“Rhaid i Gymru, ynghyd â phob un o’r gwledydd datganoledig, chwarae rhan lawn, weithredol yn y trafodaethau ar ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau bod ein buddiannau yn cael eu gwarchod yn llawn,” meddai Carwyn Jones cyn y cyfarfod.

“Mae hyn yn cynnwys diogelu mynediad llawn a dilyffethair at y Farchnad Sengl er mwyn diogelu ein heconomi, a sicrhau ar yr un pryd nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i gymryd cam yn ôl ar faterion pwysig fel gwarchod hawliau gweithwyr.”

‘Yn y fantol’

Yn ôl Mark Drakeford, “mae ffyniant a chyfeiriad Cymru yn y dyfodol yn y fantol.

“Mae’r materion hyn yn llawer dyfnach na buddiannau unrhyw blaid neu Lywodraeth benodol. Does dim modd i unrhyw unigolyn neu grŵp hawlio monopoli ar syniadau da, ac rydyn ni’n croesawu’r cyfle hwn i fanteisio ar gyngor y grŵp,” meddai.

Mae aelodau’r Grŵp Cynghori ar Ewrop yn cynnwys:

  • Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd
  • Kevin Crofton, Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe
  • Jill Evans, Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill, Aelod o Senedd Ewrop
  • David Jones, Prif Weithredwr Coleg Cambria
  • Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth
  • Hywel Ceri Jones, Cyn-lysgennad cyllid yr UE yng Nghymru
  • Tom Jones, Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop
  • Yr Arglwydd Kinnock, Cyn is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd
  • Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Eluned Morgan AC, Cyn-aelod o Senedd Ewrop
  • William Powell, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn ystod y pedwerydd Cynulliad
  • Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Kevin Roberts, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Amaeth
  • Kay Swinburne, Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan, Aelod o Senedd Ewrop
  • Emma Watkins, Cyfarwyddwr CBI Cymru