Cyngor Sir Ceredigion
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi amheuon ynglŷn â sut mae Cyngor Sir Ceredigion  yn gweithredu ei strategaeth iaith, ar ôl i ffigyrau ddangos gostyngiad yn nifer siaradwyr Cymraeg yr ardal.

Mae’r mudiad yn honni bod 7% yn llai o siaradwyr Cymraeg yn gweithio i’r cyngor (lawr o 58% i 51%) o’i gymharu â’r llynedd, 8% yn llai yn gweithio i Heddlu Dyfed Powys (lawr o 53% i 45%) a 6% yn llai yn gweithio i Brifysgol Aberystwyth (29% i 23%).

Roedd 2% yn llai o siaradwyr Cymraeg yn gweithio i Fwrdd Iechyd Hywel Dda a Chyfoeth Naturiol Cymru ac mae staff Cymraeg Coleg Cymraeg Ceredigion wedi aros yn 41%, yn ôl gwaith ymchwil y mudiad.

Mewn llythyr agored at y cyngor, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen ei gwneud hi’n orfodol i weithwyr newydd feddu sgiliau Cymraeg a bod angen gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol ar y stryd fawr. Diben hynny fyddai strategaeth fwy “penodol” a “blaengar”, yn ôl llefarydd o’r mudiad.

“Cwympo mae nifer y siaradwyr Cymraeg ac os yw’r Cyngor Sir a sefydliadau cyhoeddus eraill eisiau atal hynny mae angen strategaeth flaengar sydd yn mynd i’r afael â phroblemau fel allfudo.”

 

“Yn fwy na hynny faint o bobl sydd yn gwybod fod y strategaeth hon yn bod? Pam na fyddai’r Cyngor wedi manteisio ar yr holl grwpiau a mudiadau cymunedol sydd yng Ngheredigion er mwyn i bawb chwarae rhan? Yr un yw’n dyhead yn y pen draw.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Ceredigion am ymateb.

Lluniwyd y Strategaeth Hybu gan Grŵp Gweithredol Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn unol â Safonau’r Gymraeg.