Melin Black Pool, yn Arberth, sir Benfro
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn heddiw i gynlluniau i ddatblygu hen felin ger Arberth yn sir Benfro yn atyniad i ymwelwyr.
Bwriad y perchnogion sydd hefyd biau’r parc gwyliau Bluestone ydy trawsnewid hen felin flawd Black Pool yn barc thema Fictoraidd.
Byddai’r cynllun yn costio £2.5m ar amcangyfrif, a’r bwriad yw creu ystafell de Fictoraidd ynghyd â gweithdy crefftau ac agor rheilffordd stêm cul yno.
Dywedodd y perchnogion y byddent yn gobeithio creu 60 o swyddi newydd, gyda’r gobaith o ddechrau ar y gwaith yn gynnar yn 2017 a’i agor i’r cyhoedd erbyn 2018.
‘Piler i’r gymuned’
Mae’r felin yn adeilad rhestredig gradd dau a adeiladwyd yn y 19 ganrif ac a gâi ei ddefnyddio tan yr Ail Ryfel Byd.
Mae wedi’i leoli mewn ardal sydd wedi’i benodi yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Arbennig o Gadwraeth.
“Byddai Melin Black Pool ar un adeg wedi bod yn fwrlwm o weithgaredd ac yn biler i’r gymuned,” meddai William McNamara, Prif Swyddog Gweithredol parc gwyliau Bluestone.
“Yr hyn yr ydym yn cynllunio ydy gweld adeilad o’r 19eg ganrif yn cael pwyslais yn yr 21ain ganrif, er mwyn ei gadw at genedlaethau’r dyfodol.”