Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plant mewn cartref gofal yn Wrecsam wedi cael ei ddisgrifio fel dyn “cythreulig”.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd tyst wrth y rheithgor fod Gordon Anglesea wedi ei gamdrin e’n rhywiol mewn cawodydd pan oedd e’n 14 oed.

Wrth bwyntio bys at Gordon Anglesea, dywedodd y tyst ei fod yn ddyn “cythreulig” ac yn “berson pwerus”.

Mae’r dyn bellach yn ei 40au, ac fe ddywedodd wrth y llys nad oes ganddo fe “ddim parch at awdurdod, a’r cyfan oll o’i herwydd e”.

“Ers i hyn ddigwydd, does gen i ddim bywyd,” meddai. “Fe ddifethodd fy mywyd.”

Gwadu 

Mae Gordon Anglesea o Fae Colwyn yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o fwbechni yn erbyn y tyst hwn, ac un cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen arall rhwng 1982 a 1987.

Roedd y ddau fachgen yn 14 a 15 ar y pryd.

Roedd Gordon Anglesea yn bennaeth ar ganolfan y Swyddfa Gartref yn Wrecsam oedd yn cynnig hyfforddiant a gwersi i fechgyn ifainc ar brynhawniau Sadwrn.

Ar y pryd, roedd e hefyd yn Arolygydd gyda Heddlu’r Gogledd yn Wrecsam, ac fe fyddai’n gorfodi’r bechgyn i wneud ymarfer corff yn noethlymun, yn ôl y tyst.

Honnir i dri ymosodiad ddigwydd yn y ganolfan, pan wnaeth Gordon Anglesea dargedu “y bachgen olaf i fynd i’r gawod” ar ôl ras trawsgwlad.

Croesholi

Wrth groesholi’r tyst, awgrymodd Tania Griffiths, sy’n amddiffyn Gordon Anglesea, fod gan y tyst hanes hir o droseddu, gan gynnwys bwrgleriaeth a chyffuriau.

Ond dywedodd y tyst fod hynny’n amherthnasol i’r achos hwn.

Clywodd y llys fod y tyst wedi derbyn triniaeth am salwch meddwl hyd at 20 o weithiau, ac mi gwestiynodd sut y gallai fforddio prynu cyffuriau ac alcohol tra roedd e’n derbyn budd-daliadau.

Gofynnodd hi hefyd a oedd y tyst erioed wedi hawlio iawndal.

Ond fe ddywedodd nad hawlio iawndal oedd y rheswm pam ei fod e wedi dwyn achos yn erbyn Gordon Anglesea.

“Mae angen iddo fe dalu. Mae fy mywyd wedi bod yn ofnadwy.”

Ail dyst

Clywodd y llys gan ail dyst oedd yn honni iddo gael ei gamdrin gan y pedoffil John Allen yng nghartref gofal Bryn Alyn yn Wrecsam.

Dywedodd ei fod wedi cael ei gamdrin yn rhywiol gan nifer o oedolion yn y cartref.

Cafodd Allen ei garcharu am oes yn 2014 am gamdrin 18 o fechgyn ac un ferch, a chlywodd y llys fod yna gyswllt rhwng John Allen a Gordon Anglesea.

Derbyniodd Gordon Anglesea £500,000 gan lys yn 1991 ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o gamdrin rhywiol, ac mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.