Llys y Goron Birmingham
Mae chwech o bobol wedi cyfadde’ rhedeg puteindy a oedd yn denu hyd at 200 o gleientiaid y dydd yn Birmingham.

Mae Stefanos Neophytou, 25, Achilleos Neophytou, 66, Marilyn Egan, 65, Anita O’Donnell, 55, Ogun Olufunlola, 30, a Martin Tierney, 60, i gyd wedi pledio’n euog i gyhuddiad o gadw puteindy a oedd yn gwerthu gwasanaethau rhyw.

Mae manylion y cyhuddiad yn honni iddyn nhw “weithredu neu gynorthwyo” y gwaith o reoli’r Libra Club yn Summer Hill Road, Birmingham, rhwng Ionawr 1, 2010 a Chwefror 1, 2015.

Fe fu cyrch ar y clwb yn ystod oriau mân Chwefror 10 y llynedd. Ar y pryd hwnnw, mae’r heddlu’n amcangyfrif bod hyd at 20 o ferched yn gweithio yno.

Fe fydd y chwech yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Birmingham ar Hydref 17.