Mae’r rhan fwyaf o Gymry ac Albanwyr o blaid cadw Senedd Prydain yn Llundain tra bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei gwblhau yn San Steffan.

Mae adroddiad gan un o bwyllgorau San Steffan yn rhybuddio fod yr adeilad mewn “perygl catastroffig” oni bai bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn fuan.

Ymhlith y prif faterion sy’n achosi pryder mae llygod, gwaith plymio, dŵr yn gollwng o’r to a dydy rhai rhannau o’r adeilad ddim wedi cael eu diweddaru ers agor yr adeilad yn 1834.

Gallai’r gwaith cynnal a chadw gostio hyd at £4 biliwn.

Mae cynllun ar y gweill, felly, i ddod o hyd i gartref dros dro i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

Y ffigurau’n union

Yn ôl arolwg barn gan YouGov, mae 54% o bobol gwledydd Prydain yn credu y dylai’r Senedd symud allan o Lundain, a’r rhan fwyaf yn ffafrio Gogledd neu Ganolbarth Lloegr;

Ond mae 41% o Gymry o blaid gweld y Senedd yn aros yn Llundain – dim ond 20% oedd yn ffafrio rhoi cartref dros dro iddi yng Nghymru;

Ymhlith yr Albanwyr, roedd 35% o blaid aros yn Llundain, gyda 19% yn unig yn barod i’w chroesawu i’r Alban.