Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i ddau ddyn wnaeth wthio dynes ifanc i’r llawr cyn rhedeg i ffwrdd ym mhentref Llanllyfni ger Caernarfon.

Roedd y ddau ddyn yn gwisgo balaclafas a dillad tywyll ar adeg yr ymosodiad rhwng 11.30yh a 11.50yh nos Sadwrn yn stad Bryn Rhedyw.

Roedd y dioddefwr wedi dychryn ond ni chafodd ei hanafu.

Meddai DS Dafydd Curry: “Roedd ‘na gyngerdd Bryn Fôn ar y cae pêl droed ger y Neuadd Goffa yn y pentref y noson honno felly byddai ’na bobol o’r gymuned leol o gwmpas yn ogystal  â phobol o ardaloedd eraill.

“Rwy’n gofyn i unrhyw un a allent fod wedi gweld dynion amheus o’r disgrifiad uchod yn yr ardal y noson honno, neu a welodd rywun amheus yn gyrru car lliw arian –  Vauxhall Corsa o bosibl – i gysylltu â mi drwy ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod RC16138073.”