Brad Pitt ac Angelina Jolie Llun: PA
Mae’r actores Hollywood Angelina Jolie wedi gwneud cais am ysgariad oddi wrth ei gwr Brad Pitt, yn ôl ei chyfreithiwr.

Gwahaniaethau na ellir eu datrys sy’n cael ei nodi fel rheswm tros y penderfyniad i wahanu, meddai gwefan TMZ.

Mae’r cwpwl wedi bod yn briod ers mis Awst 2014 ond maen nhw’n gwahanu ar ôl deng mlynedd o berthynas.

Roedd Brad Pitt yn briod a’r actores Jennifer Aniston pan ddechreuodd ei berthynas gydag Angelina Jolie.

Mae Angelina Jolie wedi gofyn am warchodaeth lawn o chwe phlentyn y cwpwl, yn ôl gwefan TMZ.