Carwyn Jones (Llun: senedd.tv)
Fe fydd Carwyn Jones a’i lywodraeth yn cadw at addewidion yr etholiad er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd yn dilyn Brexit, cyhoeddodd y prynhawn ma.

Roedd Carwyn Jones yn cyflwyno ei raglen pum mlynedd mewn datganiad i Lywydd y Senedd.

Yr economi a’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael y mwyaf o sylw ganddo ac mae’r addewidion mwyaf yn cynnwys creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau a darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio.

Mae Plaid Cymru wedi dweud y dylai’r llywodraeth addasu ac ystyried oblygiadau’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig nad yw’r rhaglen yn ddigon manwl nac yn ddigon uchelgeisiol.

Addewidion

Meddai’r Prif Weinidog yn ei ddatganiad: “Fel llywodraeth, roeddem yn teimlo y byddai’n briodol i ddefnyddio toriad yr haf i edrych eto ar ein bwriadau ariannol o fewn y cynllun.

“Ond nid ydym am adael i ansicrwydd economaidd lywio’r Llywodraeth. Rwy’n cadarnhau ein bod yn bwrw mlaen gyda’r bwriadau yn llawn. Dyma’r polisïau y pleidleisiodd pobol Cymru amdanyn nhw, a dyma beth fyddwn ni’n eu rhoi iddyn nhw.”

Mae’r rhaglen yn crynhoi’r hyn mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei gyflawni dros y bum mlynedd nesaf, ac fe fydd manylion am gost yr addewidion yn cael eu rhyddhau yn y gyllideb ddrafft ym mis Hydref.