Ffoaduriaid yn cyrraedd ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg Llun: PA
Mae’r awdurdodau ar ynys Lesbos ger Gwlad Groeg yn galw am gymorth i symud miloedd o ffoaduriaid o’r ynys ar ôl i dân ddifrodi gwersyll ffoaduriaid.
Mae naw person sy’n cael eu hamau o gychwyn y tân wedi cael eu harestio.
Roedd mwy na 4,000 o bobol yn aros yn y gwersyll ym Moria ond nid oes adroddiadau fod unrhyw un wedi cael eu hanafu.
Fe wnaeth y ffoaduriaid ddianc i gaeau gerllaw ac mae rhai wedi cael lloches dros nos mewn gwersylloedd eraill.
Mae dros 60,000 o ffoaduriaid yn cael lloches yng Ngwlad Groeg ac mae galw mawr ar Ewrop i wneud mwy i’w helpu.
“Mae’r tân ym Moria yn symbylu methiant yr ymateb yn Ewrop i’r argyfwng hwn. Mae’r ynys wedi bod yn orlawn ers misoedd gyda phobol yn byw mewn amgylchiadau annerbyniol,” meddai cyfarwyddwr y Pwyllgor Argyfwng Cenedlaethol, Panos Navrozidis.