Mae dyn wedi’i arestio yn dilyn gwrthdrawiad traffig ym Mlaenafon dros y penwythnos lle bu farw dynes oedd yn teithio ar feic modur.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 8.05yb dydd Sul (Medi 17) ar heol Y Fenni B4246 rhwng car Volvo C70 coch a beic modur Kawasaki du.

Bu farw’r ddynes oedd yn teithio ar y beic modur yn y fan a’r lle.

Cafodd y dyn oedd yn gyrru’r beic modur hefyd ei gludo i Ysbyty Nevill Hall, ond mae bellach wedi’i ryddhau ac mae ganddo fân anafiadau.

Mae gyrrwr y car, dyn 46 oed o Flaenafon, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Mae wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu ac yn atebol i ymholiadau pellach.

Mae Heddlu Gwent yn galw ar unrhyw dystion i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 503 17/09/16.