Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae’r rhwygiadau o fewn y Blaid Lafur wedi dwysau ymhellach o ganlyniad i ddadleuon am ddad-ethol Aelodau Seneddol sydd ddim yn deyrngar i’r blaid.

Yn ogystal, mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi awgrymu y byddai am weld aelodau o’r blaid yn cael yr hawl i bleidleisio am ba Aelodau Seneddol y dylid eu hethol i gabinet yr wrthblaid.

Bwriad hyn, yn ôl Jeremy Corbyn, fyddai uno’r blaid.

Ond, mae ei wrthwynebydd, AS Pontypridd Owen Smith, ynghyd ag ASau blaengar fel Chris Bryant a Liz Kendall wedi beirniadu’r syniad.

Penderfynu ailgyflwyno’r system ai peidio?

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Blaid, Tom Watson, ei fod am weld y cabinet yn parhau i gael eu hethol gan ASau yn hytrach nag aelodau’r blaid.

Bydd yn cyflwyno’i ddadl dydd Mawrth, a lle’r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol wedi hynny fydd penderfynu a oes angen ailgyflwyno’r system bleidleisio ar gyfer aelodau’r blaid ai peidio.

Ac yn dilyn honiadau nad oedd Jeremy Corbyn wedi gwadu honiadau ei fod am weld Tom Watson yn colli ei rôl fel Dirprwy Arweinydd, mae wedi dod i’r amlwg nad oes modd ei waredu o’i rôl.

‘Dad-ethol ASau’

Dadl arall sydd wedi codi’i phen yn ddiweddar ymysg y blaid yw’r honiadau ynglŷn â dad-ethol Aelodau Seneddol annheyrngar.

Mae nifer o Aelodau Seneddol Llafur ar hyd a lled Prydain yn wynebu gorfod ail-ymgeisio neu golli eu seddau o ganlyniad i’r cynlluniau i ad-drefnu ffiniau etholaethol, lle mae disgwyl i Lafur ddioddef fwyaf.

Ond, mae Owen Smith wedi cyhuddo Jeremy Corbyn o beidio ag ymyrryd yn sgil honiadau fod gweithredwyr am geisio dad-ethol rhai ASau fel na fyddan nhw’n medru ymgeisio yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Daw hyn wrth i ganlyniad y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid agosáu, gyda’r cyhoeddiad mewn cynhadledd arbennig ddydd Sadwrn.