Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio am lifogydd posib ar hyd afon Gwy nos Sul.

Mae disgwyl i’r llanw gyrraedd uchder o 7.6 metr erbyn 9.40pm.

Mae rhybuddion yn eu lle ar gyfer ardaloedd Cas-gwent a Thyndyrn.