Mae Gareth Bale wedi cael ei adael allan o dîm Real Madrid i herio Espanyol ddydd Sul oherwydd anaf i’w glin.

Cafodd ymosodwr Cymru yr anaf mewn gêm yn erbyn Sporting Lisbon yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fercher.

Dywedodd y rheolwr Zinedine Zidane: “Cafodd Gareth ergyd i’w glin ac felly fyddwn ni ddim yn cymryd risg gyda fe.

“Mae’r holl chwaraewyr am chwarae, ond ry’n ni’n chwarae bob tri diwrnod ac allwn ni ddim cymryd risg gyda chwaraewr mor bwysig.”

Mae’n sicr y bydd rheolwr Cymru, Chris Coleman yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa wrth i’w dîm baratoi i herio Awstria a Georgia yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd ddechrau mis nesaf.