Ni chafodd yr amddiffynnwr chwith Neil Taylor ei gynnwys yng ngharfan Abertawe ar gyfer y daith i Southampton ddydd Sul.

Roedd ffrae rhwng Taylor a’r rheolwr Francesco Guidolin yn dilyn penderfyniad yr Eidalwr i dynnu’r chwaraewr oddi ar y cae cyn hanner amser yn y gêm yn erbyn Chelsea.

Roedd y chwaraewr i’w weld yn grac nad oedd Guidolin wedi aros tan hanner amser i’w eilyddio.

Ond yn ystod cynhadledd i’r wasg ddydd Iau, dywedodd Guidolin fod y ffrae “ar ben” ar ôl sawl trafodaeth rhwng y ddau.

Cafodd yr Albanwr Stephen Kingsley ei ddewis yn safle’r cefnwr chwith, a chafodd ei ddisodli ar ôl awr o’r gêm yn erbyn Southampton gan Angel Rangel.

Wrth i Gymru baratoi i herio Awstria a Georgia ddechrau mis Hydref, dim ond dwy gêm yn erbyn Man City fydd gan Taylor i brofi ei ffitrwydd cyn i Chris Coleman gyhoeddi ei garfan.

Mae gan Abertawe gêm yn erbyn Lerpwl yn ystod wythnos y gemau rhyngwladol hefyd, ond mae’n debygol y byddai hynny’n rhy hwyr i Taylor pe bai e’n cael ei enwi yng ngharfan Coleman.