Mae meddylfryd y chwaraewyr yn bwysicach na’u siâp ar y cae, yn ôl rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Francesco Guidolin.

Mae Abertawe’n teithio i Southampton ddydd Sul (2.15pm) ar ddechrau wythnos pan fyddan nhw hefyd yn herio Man City ddwywaith – yn y gynghrair a chwpan yr EFL.

Mae’r Elyrch yn bedwerydd ar ddeg yn yr Uwch Gynghrair, tra bod Southampton yn ddeunawfed.

Mae Guidolin wedi dewis siâp 4-3-2-1 ar gyfer y gêm.

Cafodd Guidolin ei feirniadu am newid siâp y tîm yn ystod y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Chelsea, a arweiniodd hefyd at ffrae gyda’r amddiffynnwr Neil Taylor, a gafodd ei dynnu oddi ar y cae yn ystod yr hanner cyntaf.

Dywedodd Guidolin: “Dw i’n hoffi chwarae gyda mwy o gyrff yng nghanol y cae. Dydy hi ddim yn hawdd esbonio ond yn ein chwarae ni, rhaid i ni amddiffyn gydag un system ac ymosod gyda system arall.

“Dw i’n hoffi dysgu fy chwaraewyr a gweithio mewn gwahanol ffyrdd, dyna fy swydd i.

“I fi, does dim gwahaniaeth, meddylfryd yw’r peth pwysig.”

Gobaith Guidolin y tymor hwn yw dysgu digon o ddulliau i’w chwaraewyr fel bod modd iddo newid siâp yn gyson er mwyn gwneud i’r gwrthwynebwyr ddyfalu beth mae’r tîm yn ei wneud o hyd.

“Yn ystod fy ngyrfa, cyn gemau weithiau, fyddai’r gwrthwynebwyr ddim yn gwybod ein siâp ni a’r hyn roedden ni’n ei gynllunio oherwydd gallen ni chwarae 4-2-3-1, 4-3-3, 3-4-3. Mae hyn yn bwysig, mae angen amser arna i i wneud hynny ond dyna rwy am ei wneud. Mae’n bwysig.

“Mae’n rhoi syrpreis i’r gwrthwynebwyr, a fydd dim modd ein darogan ni.”

Ond mae Guidolin, sy’n dal i siarad â’r wasg gyda chymorth cyfieithydd, ei gynorthwy-ydd Gabriele Ambrosetti, yn mynnu nad yw cyfathrebu’n broblem iddo wrth iddo barhau i ddysgu Saesneg.

‘Saesneg yn gwella’

Dywedodd wrth Golwg360: “Mae Eidaleg yn well i fi ond mae fy Saesneg yn gwella a dw i’n gweithio ar y cae, nid wrth y bwrdd.

“Gweithio gyda’r tîm ydw i, a hynny ar y cae.

“Ar ddiwedd pob sesiwn ymarfer, ry’n ni’n ceisio deall y siâp newydd. Y tymor diwethaf, wnaethon ni ddim ei defnyddio ond fe wnaethon ni ymarfer y 3-5-2.

“Yn y cyfnod hwnnw, ro’n i’n gwybod fod Cymru’n ei defnyddio a gallwn i weld bod Ash [Ashley Williams] a Neil [Taylor] yn chwarae o fewn y system hon. I fi, roedd y siâp yn syrpreis dda.”

Tîm Southampton: Forster; Cédric Soares, José Fonte, Van Dijk, Bertrand; Clasie, Oriol Romeu, Davis, Tadic, Redmond; Long; Eilyddion: McCarthy, Yoshida, Austin, Martina, Reed, Hojbjerg, Isgrove

Tîm Abertawe: Fabianski; Kingsley, Amat, Fernandez, Naughton; Fer, Cork (capten), Ki; Sigurdsson, Barrow; Llorente; Eilyddion: Nordfeldt, van der Hoorn, Rangel, Britton, Montero, Routledge, Borja Baston