Mae Elfyn Evans a’i gyd-yrrwr Craig Parry wedi ennill rali Ynys Manaw.
Roedd ganddyn nhw fantais o 5.9 eiliad ar ddiwedd y ras 120 milltir sydd wedi cael ei chynnal dros nifer o gymalau.
Bu bron iddyn nhw golli eu gafael ar y ras ar ôl 12 cymal, ond fe lwyddon nhw i guro Mark Higgins a Darren Garrod tua’r diwedd.
Ar ôl y ras, dywedodd Evans: “Bu’n benwythnos hir ac anodd ac fe fu’n heriol drwyddi draw.
“Ro’n i’n dal i ddarganfod tipyn am y car a’r teiars gan na chawson ni brawf ymlaen llaw felly roedd tipyn o botsian i gael y car yn berffaith.
“Ro’n i am drio mynd amdani ac adeiladu mantais gyfforddus a chadw honno, ond fe aethon ni i drafferthion gyda phroblemau siafft gyrru, wnaeth gostio bron i funud i ni.
“Roedd hi’n frwydr wedyn ac roedd hi’n frwydr wych gyda Mark [Higgins] i geisio adennill amser. Roedd gwneud hynny ar gymalau lle mae ganddo fe gymaint o wybodaeth leol yn anodd gan nad ydw i wedi bod ar yr heolydd yma ers 2010!
“Mae cipio’r fuddugoliaeth yn eisin ar y gacen, nid yn unig i fi ond i’r tîm cyfan.
“Sicrhau’r bencampwriaeth iddyn nhw oedd y rheswm y des i yma yn y pen draw ac efallai ’mod i’n hunanol hefyd gan ’mod i am frwydro yn erbyn Mark ac ennill y digwyddiad.
“Mae’r fuddugoliaeth yn ddiweddglo ar flwyddyn wych yn y BRC ac yn wobr wych i DMACK a’r tîm cyfan am eu gwaith caled yn 2016.”