Neil Hamilton, arweinydd UKIP yn y Cynulliad
Mae Aelod Cynulliad UKIP, Neil Hamilton wedi beirniadu arweinydd newydd UKIP, Diane James am gefnogi arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill.
Hamilton bellach yw arweinydd y blaid yn y Cynulliad yn dilyn ffrae tros y ffaith fod Gill yn gwneud dwy swydd – y naill fel Aelod Cynulliad a’r llall fel Aelod Seneddol Ewropeaidd.
Ond ers iddi gael ei phenodi’n olynydd i Nigel Farage, mae Diane James wedi cefnogi Nathan Gill, a ddywedodd fod James yn “chwa o awyr iach”.
Mae Diane James wedi dweud wrth Neil Hamilton am ganolbwyntio ar ei rôl fel arweinydd y blaid yn y Cynulliad, rhywbeth y mae Hamilton yn dadlau y mae e eisoes yn ei wneud.
Dywedodd Hamilton wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC: “Mae’n amlwg nad yw hi [Diane James] wedi bod yn gwylio’r dadleuon o’r Cynulliad bob wythnos.
“Cawson ni ein hethol ym mis Mai a’r hyn dw i wedi bod yn ei wneud pedwar diwrnod yr wythnos yng Nghaerdydd yw canolbwyntio ar fy ngwaith fel Aelod Cynulliad ac fel arweinydd y grŵp, fi yw canolbwynt hynny.
“Ry’n ni wedi cael dadleuon, fe gawson ni un ar Brexit yr wythnos diwethaf. Dw i’n holi Carwyn Jones bob dydd Mawrth ac yn y blaen.”
Dwy swydd Nathan Gill
Mae Hamilton yn dal i fynnu na all Gill barhau i gynnal dwy swydd.
“Y broblem gyda Nathan Gill yw ei fod e’n gwneud dwy swydd, fel Aelod Seneddol Ewropeaidd ac fel Aelod Cynulliad.
“Mae hi [James] yn dweud wrtha i am ganolbwyntio ar fy swydd yng Nghaerdydd a dyna dw i’n ei wneud. Ei broblem e yw na all e wneud hynny.
“Mae ganddo fe ddwy swydd ac allwch chi ddim bod mewn dau le ar yr un pryd. Dyna ganolbwynt y ddadl gyfan.
“Mae’n dominyddu’r penawdau yng Nghymru oherwydd y cyfarfodydd cyfrinachol sy’n digwydd. Dydy e ddim yn dod wrtha i.”