Dylai gwledydd Prydain dderbyn bedair gwaith yn fwy na’r nifer bresennol o ffoaduriaid, yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Tramor Llafur, David Miliband.
Yn ôl Miliband, dylai Prydain dderbyn hyd at 25,000 o ffoaduriaid bob blwyddyn.
Y llynedd, cytunodd Llywodraeth Prydain i dderbyn 20,000 o ffoaduriaid erbyn 2020 yn dilyn pwysau gan y cyhoedd ar ôl cyhoeddi lluniau o ffoaduriaid yn marw wrth groesi Môr y Canoldir.
Ar drothwy uwchgynhadledd yn Efrog Newydd ddydd Llun, dywedodd Miliband fod angen “ymrwymiad clir” gan rai o wledydd cyfoethocaf y byd er mwyn datrys y sefyllfa.
Dywedodd wrth raglen Murnaghan ar Sky News: “Dw i’n credu bod tipyn o sgôp i Theresa May ddod i’r Cenhedloedd Unedig ac uwchgynhadledd Obama ddydd Mawrth a dweud ‘Edrychwch, mae gan y DU record dda iawn ar gymorth tramor rhyngwladol’.
“Ry’n ni’n arweinydd, mae’r DU yn arweinydd, trwy’r Adran Datblygiad Rhyngwladol, ar gymorth dyngarol byd-eang.
“Ond gallwn ni hefyd wneud mwy o gyfraniad y tu hwnt i chwech o ffoaduriaid ym mhob etholaeth seneddol.”
Mae Miliband yn galw am gyfartaledd o 25 o ffoaduriaid ym mhob etholaeth drwy wledydd Prydain.
Dywedodd Miliband, sy’n llywydd y Pwyllgor Achub Rhyngwladol: “Dw i’n credu y gallai’r DU wneud mwy ar ail-leoli ffoaduriaid i efelychu perfformiad rhagorol y DU ar gymorth dyngarol rhyngwladol.
Ond fe ddywedodd hefyd fod rhaid mynd i’r afael â’r problemau sy’n gyrru ffoaduriaid allan o’u gwledydd ac i mewn i Ewrop.
Mae cadeirydd tasglu ffoaduriaid y Blaid Lafur, Yvette Cooper hefyd yn galw ar Lywodraeth Prydain i dderbyn mwy o ffoaduriaid.